1. Cyflwyniad

 
14% of survey complete.
Annwyl Gyfaill,
 
Mae CULT Cymru yn rhaglen ar y cyd rhwng pedwar undeb yn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru - BECTU, Equity, Undeb y Cerddorion a Undeb yr Ysgrifenwyr. Ariennir yn rhannol trwy Cronfa Ddysgu Undeb Cymru, Llwydoraeth Cymru. Rydym yn gweithio gyda gweithwyr creadigol, cyflogwyr a sefydliadau eraill i drefnu gweithgareddau a digwyddiadau rhwydweithio ledled Cymru.
 
Gyda’r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru’n ail gydio yn y gwaith cynhyrchu yn dilyn y pandemig, mae tystiolaeth yn dangos bod prinder sgiliau ymysg y gweithlu llawrydd mewn rhai meysydd penodol.

Rydym yn awyddus i gysylltu gweithwyr llawrydd -  sydd wedi bod yn gweithio yn y theatr / ar ddigwyddiadau byw neu gynyrchiadau celfyddydol yng Nghymru ac sy’ gyda sgiliau trosglwyddadwy - gyda chwmnïau cynhyrchu. Mae yma gyfle hefyd i’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y byd ffilm a theledu sydd efallai am newid rôl neu adran er mwyn ychwanegu at eu sgiliau ac i wella eu gallu i ffeindio gwaith yn y dyfodol.

Byddwn yn cynnal digwyddiadau codi ymwybyddiaeth drwy zoom cyn bo hir i roi gwybod i bobl am y cyfleoedd amrywiol sydd ar gael yn y gwahanol adrannau yn y sector teledu a ffilm yng Nghymru.

Cwblhewch yr holiadur cyn gynted a bo modd ogydd.  Rydym yn cynnal digwyddiad - croeso i bawb - dydd Mawrth 30.03.21 am 7-8 yh.  Gweler gwybodaeth ar ein gwefan cult.cymru   https://bit.ly/39bd6VA

Question Title

* 1. Caniatâd

T